Mae traffordd yr M62 ger Hudderfield wedi’i chau, wedi i ddyn syrthio oddi ar bont i ganol traffig.

Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn gofyn i yrwyr osgoi y draffordd, yn dilyn y digwyddiad gen Scammonden Dam.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r bont sy’n cael ei galw y ‘Rainbow Bridge’ ar gyffordd 23 toc cyn 7 o’r gloch y bore, wedi adroddiadau fod dyn mewn gwewyr uwchben y draffordd.

Fe gaewyd y draffordd, ond am 7.13yb fe gwympodd y dyn oddi ar y bont i ganol y ffordd. Bu farw yn y fan a’r lle.

Mae’r draffordd yn parhau ar gau i’r ddau gyfeiriad, ac mae ymchwiliad ar y gweill.