Mae Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar wedi dweud ei fod yn hyderus na fydd angen terfynfeydd pasport ar hyd y ffiniau ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd yn ymateb i bryderon y cyn-Arlywydd Mary McAleese, sydd wedi cwestiynu sut y byddai’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn gwahaniaethu rhwng trigolion Iwerddon a phobol eraill o wledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd hi nad oedd hi’n gweld ffordd o osgoi rhyw fath o wirio.

Pe bai’r drefn bresennol yn parhau, fe fydd rhwydd hynt i drigolion gwledydd Prydain ac Iwerddon deithio a gweithio yn y naill wlad a’r llall.

Ond dydy Mary McAleese ddim yn gweld ffordd arall o wirio a yw unigolion sy’n ceisio teithio a gweithio’n destun y cytundeb neu beidio.

Dywedodd ei bod hi’n rhagweld “ffenomenon cerdiau adnabod”.

Leo Varadkar

Ond mae Leo Varadkar yn mynnu na fydd angen gwirio pasports.

Dywedodd wrth RTE y byddai Llywodraeth Prydain yn ceisio rheoli mewnfudo drwy osod cyfyngiadau ar hawliau trigolion yr Undeb Ewropeaidd i weithio a hawlio budd-daliadau, ac nid drwy wirio pasports.

Dywedodd: “Does dim byd yn 100% yn sicr mewn bywyd a gwleidyddiaeth, ond dw i’n hyderus iawn na fydd rheoli pasports yn digwydd rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon.”

Ychwanegodd ei fod yn “deall pryderon y cyn-Arlywydd McAleese”.

Mewn papur ddechrau’r mis, fe wnaeth Llywodraeth Prydain ddadlau yn erbyn cyflwyno gwiriadau pasports, yn dilyn awgrym y gallen nhw gyflwyno camerâu cylch-cyfyng neu system o adnabod rhifau cofrestru ceir.