Cafodd yr heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth bachgen bach ym Manceinion eu galw i gartre’r teulu ddydd Gwener yn dilyn adroddiadau o ffrae rhwng dyn a dynes.

Cafwyd hyd i gorff y bachgen bach pan aeth yr heddlu i’r eiddo yn ardal Wythenshawe y bore ma.

Roedden nhw’n ymateb i adroddiadau o ddigwyddiad domestig.

Mae dyn 31 oed yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio’r bachgen, ac mae’r heddlu’n aros i holi dynes sydd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Roedd y ddau eisoes wedi gadael yr eiddo erbyn i’r heddlu ddod o hyd i’r bachgen.

Mae’r achos wedi cael ei drosglwyddo i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.

Mae lle i gredu bod y teulu wedi bod yn byw yno ers rhai misoedd.