Mae ail ddyn wedi cael ei arestio mewn perthynas ag ymgais i gynnal ymosodiad brawychol y tu allan i Balas Buckingham.

Mae’r dyn 30 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o droseddau brawychol ar ôl i dri o blismyn gael eu hanafu wrth geisio ei atal rhag defnyddio cyllell.

Yr heddlu gwrth-frawychol sy’n arwain yr ymchwiliad i’r digwyddiad nos Wener.

Maen nhw hefyd wedi cael rhagor o amser i holi dyn 26 oed a gafodd ei arestio ger safle’r ymosodiad ar y pryd.