Mae dyn 31 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio bachgen pum mlwydd oed ym Manceinion.
Cafodd yr heddlu eu galw i ffrae ddomestig yn ardal Wythenshawe toc ar ôl canol nos heddiw, lle cawson nhw hyd i gorff y bachgen yn ei gartref.
Roedd dyn a dynes eisoes wedi gadael erbyn i’r heddlu gyrraedd, ac maen nhw’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty. Cafodd y ddynes ei hanafu’n ddifrifol.
Mae’r dyn yn y ddalfa.
Dydy’r bachgen ddim wedi cael ei enwi hyd yn hyn.
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.