Mae mewnfudo net i’r Deyrnas Unedig wedi cwympo i’w lefel isaf mewn tair blynedd, wrth i nifer y dinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd sy’n gadael y wlad, godi.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS) mae 246,000 yn fwy o bobol yn cyrraedd y wlad nag sydd yn ei gadael – cwymp o 81,000 o gymharu â’r 12 mis blaenorol.

Mae’n debyg mai cynnydd yn y nifer o bobol yn gadael y wlad oedd yn bennaf gyfrifol am y cwymp – allfudo gan ddinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd yn bennaf. 

Cyfanswm y mewnfudo net o wledydd yr Undeb Ewropeaidd oedd 127,000, sydd yn gwymp o 51,000 o gymharu â’r deuddeg mis blaenorol.

‘Brexodus’

“Mae’r canlyniadau yma yn debyg i ystadegau 2016,” meddai Nicola White, Pennaeth Ystadegau Mudo Rhyngwladol, y Swyddfa Ystadegau. 

“Ac yn awgrymu efallai bod y refferendwm dros yr Undeb Ewropeaidd yn dylanwadu penderfyniadau pobol o ran mudo i mewn ac allan o’r Deyrnas Unedig, yn enwedig yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae’n rhy fuan i fedru dweud os ydy hyn yn awgrymu tuedd hir dymor.”

Yn ôl Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Vince Cable, mae’r ystadegau yn dystiolaeth o “Brexodus” o ddinasyddion Ewropeaidd sydd wedi ymgartrefu ym Mhrydain.