Stryd Soho, Handsworth, Birmingham - un o gadarnleoedd y gangiau (llun parth cyhoeddus)
Mae llys wedi gwahardd deunaw dyn o ddwy gang yn Birmingham rhag mynd i rai rhannau o’r ddinas a rhag cysylltu â’i gilydd.

Yn ôl Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, mae’r dyfarniad gan Lys y Goron Birmingham yn “garreg filltir” ac mae’n debyg mai dyma yw’r gwaharddiad torfol mwya’ erioed.

Rhwystro trais

Yn ôl yr heddlu, nod y gwaharddiadau dwy flynedd o hyd yw rhwystro’r trais rhwng gangiau’r Burger Bar Boys a’r Johnson Crew.

Roedd y ddwy gang yn gyfrifol am gyfres o droseddau gydag arfau a chyffuriau ar strydoedd Birmingham yn ystod haf 2015 a dechrau 2016.

Fe fydd y gwaharddiad hefyd yn atal y dynion rhag bod mewn fideos cerddorol sydd yn annog trais rhwng gangiau, ac yn galluogi heddlu i gyfyngu ar eu defnydd o geir a ffonau symudol.

Diogelu’r gymuned

“Math newydd o ddeddfwriaeth yw hon ac rydym yn credu mai dyma’r tro cyntaf i waharddiad gael ei osod dros gymaint o aelodau gang yn y Deyrnas Unedig,” meddai’r Ditectif Ringyll, Ian Comfort.

“Dyma fesur arall i’n cynorthwyo i reoli’r troseddwyr ac i helpu cadw’r gymuned yn ddiogel.”