Y Swyddfa Gartref (Steve Cadman CCA 2.0)
Mae’r Swyddfa Gartref wedi ymddiheuro ar ôl i lythyron rhybudd gael eu danfon ar gam i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig.

Daeth y camgymeriad i’r amlwg pan wnaeth academydd o’r Ffindir – oedd wedi derbyn un o’r llythyron – dynnu sylw ato ar gyfryngau cymdeithasol.

Er bod  Eva Johanna Holmberg yn briod â Phrydeiniwr, fe dderbyniodd llythyr yn nodi y byddai’n rhaid iddi adael y Deyrnas Unedig o fewn mis.

Wedi iddi hi rannu ei phrofiadau ar Twitter, daeth i’r amlwg bod 100 o lythyron tebyg wedi cael eu danfon.

Ymchwiliad

“Cafodd ychydig o lythyron eu danfon trwy gamgymeriad ac rydym yn edrych i mewn i achos hyn, “ meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.

“Rydym yn cysylltu â phawb wnaeth dderbyn y llythyr yma er mwyn cadarnhau bod modd ei ddiystyru. Rydym yn hollol glir am y ffaith bod hawliau pobol o’r Undeb Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig heb newid.”

“Gwarth”

Mae aelod o ymgyrch Open Britain wedi beirniadu’r llythyron, gan eu cymharu’r i gynllun a gafodd ei gyflwyno gan y Ceidwadwyr, i annog mewnfudwyr anghyfreithlon i adael Prydain.

“Dyma warth gan yr un adran wnaeth gyflwyno’r faniau ‘ewch adref’ ychydig flynyddoedd yn ôl,” meddai Prif Weithredwr Open Britain, James McGrory.

“Does dim rhyfedd bod dinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd yn pryderu am ddyfodol eu statws yn y Deyrnas Unedig, pan maen nhw’n clywed am bobol sydd â phob hawl i fod yma yn wynebu cael eu hanfon oddi yma.”