Y bloc fflatiau'n llosgi (Natalie Oxford CCA 4.0 Rhyngwladol)
Mae Prif Weinidog Prydain wedi cyhoeddi y bydd corff rheoli bloc fflatiau Tŵr Grenfell yn colli cyfrifoldeb dros y safle a’r tai o’i amgylch.

Daeth y cadarnhad yn ystod cyfarfod nos Fawrth rhwng Theresa May a rhwng 60 a 70 o oroeswyr y trychineb – trychineb lle bu farw dros 80 o bobol.

Yn ystod y cyfarfod dywedodd Thersa May “na fyddai’r Sefydliad Rheolaeth Tenantiaid (TMO) yn parhau i fod yn gyfrifol amystâd dai Lancaster West”.

‘Methu ag ymateb’

Yn y cyfarfod, roedd y Prif Weinidog gyfaddef bod Cyngor Kensington a Chelsea – sydd yn cael ei arwain gan Dorïaid – wedi “methu ag ymateb yn ddigon cyflym i’r tân”.

Derbyniodd Theresa May ymateb chwyrn gan oroeswyr y trychineb yn ystod cyfarfod ddiweddar, ond mynnodd eu bod yn “blês” â chasgliadau cyfarfod nos Fawrth.

Roedd hithau wedi cael ei beirniadu adeg y drychineb am fethu â chwrdd a theuluoedd y meirw a thrigolion lleol eraill.

Ymchwiliad

Bydd gwrandawiad cyntaf ymchwiliad o’r trychineb yn cael ei chynnal mis nesaf, ac mae disgwyl i’r adroddiad cyntaf gael ei chyhoeddi yn ystod Pasg.

Mi fydd yr ymchwiliad yn craffu ar ymateb awdurdodau i’r tân, ac yn ystyried os ydy rheoliadau adeiladau yn ddigonol.