Vince Cable (trwydded Llywodraeth Agored)
Mae arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Vince Cable, wedi dweud bydd ei blaid yn parhau i gefnogi cyfreithloni canabis.
Yn ôl Vince Cable, mae diwydiant cyffuriau sydd wedi’i rheoleiddio yn well nag “anarchiaeth marchnad rydd,” ac mae “sgil effeithiau difrifol a negyddol” i’r system bresennol.
Ers amser, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymrwymo i gyfreithloni’r cyffur.
Mae’r Swyddfa Gartref wedi dweud na fydd canabis yn cael ei gyfreithloni gan fod “tystiolaeth wyddonol a meddygol clir bod canabis yn gyffur niweidiol”.
“Synnwyr cyffredin”
“Mae’r dystiolaeth yn glir,” meddai Vince Cable wrth BBC Newsbeat. “Os ydych chi eisiau atal y niwed i bobol ifanc, rhaid i chi ddod â’r fasnach i olau dydd ac allan o ddwylo troseddwyr.
“Mae synnwyr cyffredin yn awgrymu i mi y dylen ni reoleiddio a rheoli’r farchnad yma, yn hytrach na chael anarchiaeth marchnad rydd, sef beth sydd gyda ni ar hyn o bryd.”
Cyffur dosbarth B yw canabis, ac mae modd carcharu unigolion sydd â’r cyffur yn eu meddiant am hyd at bum mlynedd.