Mae Lidl bellach wedi ennill y blaen ar Waitrose gan ddod y seithfed archfarchnad fwyaf yng ngwledydd Prydain.

Daw hyn o ganlyniad i gynnydd yng nghyfradd chwyddiant, gyda mwy o bobol yn troi at y cwmni o’r Almaen sy’n cynnig prisiau is.

Erbyn hyn mae gan Lidl 5.2% o gyfran y farchnad gyda deg miliwn o gartrefi yn siopa yno, ac mae eu gwerthiant cyffredinol wedi codi 18.9%.

Mae’r ymchwil gan Kantar Worldpanel yn awgrymu fod y pedwar o brif archfarchnadoedd gwledydd Prydain wedi gweld twf mewn gwerthiant gyda Tesco yn gweld cynnydd o 3% yng ngwerthiant cyffredinol ond eu cyfran o’r farchnad wedi disgyn i 27.8%.