Mae beth bynnag 26 o bobol wedi’u harestio mewn cyfres o gyrchoedd ben bore cyn Carnifal Notting Hill, Llundain.

Mae wyth o dai yn ardal Lewisham yn ne-ddwyrain y ddinas wedi’u harchwilio, ac mae wyth o bobol wedi’u dwyn i’r ddalfa.

Fe gafodd nifer o gyrchoedd hefyd eu cynnal yn Kensington a Chelsea, yr ardal lle mae’r carnifal lliwgar yn digwydd pob Gwyl Banc Awst.

Fe fu plismyn yn archwilio 21 o gartrefi yn Kensington a Chelsea, Hammersmith a Fulham, Westminster, a Wandsworth, gan arestio 18 o bobol.

Yn ol Heddlu’r Met, Heddlu Dinas Llundain a Heddlu Trafnidiaeth Prydain, mae’r cyrchoedd yn rhan o ymgyrch yn erbyn troseddau’n ymwneud â chyllyll, cyffuriau ac acsploetio plant.