Rhaid trin troseddau casineb ar gyfryngau cymdeithasol yn yr un modd â throseddau arferol, yn ôl canllawiau newydd ar gyfer y rheiny sy’n erlyn.

Daw’r diweddariad i ddatganiadau polisi Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o droseddu ar-lein.

Yn ôl y CPS mi fydd troseddau casineb ar lein yn cael eu herlyn yr un ffordd ag y mae troseddau arferol, a bydd “cwynion ar-lein yn cael eu trin yr un mor ddifrifol â chwynion all-lein.”

Mae grwpiau cymunedol sydd yn monitro achosion o gasineb yn aml yn tynnu sylw at y broblem o gasineb ar wefannau cyfryngau cymdeithasol.

Ac yn ôl grwpiau sydd yn monitro deunydd gwrth-semitig ac islamaffobig, mae’r nifer helaeth o achosion o gasineb yn digwydd ar y we.

“Sicrhau cyfiawnder”

“Mae troseddau casineb yn cael effaith cyrydol ar ein cymdeithas a dyna pam mae’r mater yn flaenoriaeth i’r CPS,” meddai Alison Saunders, Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus y CPS.

“Mae’r dogfennau yma yn ystyried ehangder a chyd-destun presennol troseddu, er mwyn sicrhau bod erlynyddion â’r cyfle gorau i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr.”