Gyda Big Ben ar fin rhoi’r gorau i daro am bedair blynedd, mae rhai ASau Torïaidd yn galw am drawiad arbennig i nodi’r adeg y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
(llun: PA)
Fe fydd y cloc enwog yn distewi am y cyfnod hiraf yn ei hanes ar ôl hanner dydd dydd Llun tra bydd gwaith atgyweirio hanfodol yn cael ei wneud i’r cloc a’r tŵr.
Meddai’r AS Jacob Rees-Mogg:
“Byddai’n symboliaeth wych i seinio ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd fel dathliad soniarus o ddemocratiaeth.”
Yr un oedd barn AS Torïaidd gwrth-Ewropeaidd arall, Peter Bone:
“Rydym yn cael ein rhyddhau o’r uwch-wladwriaeth Ewropeaidd a bydd Prydain yn wlad gwbl hunan-lywodraethol unwaith eto. Byddai’n rhyfedd iawn pe na bai Big Ben yn seinio am hanner nos y diwrnod hwnnw. Dyma galon ein cenedl.”
Dywed llefarydd ar ran Tŷ’r Cyffredin mai’r bwriad fydd i Big Ben daro i nodi achlysuron arbennig fel Sul y Cofio a Nos Galan yn ystod y pedair blynedd nesaf.