E-sigarennau (izord CCA3.0)
Mae ymchwil newydd yn awgrymu y gallai smygu sigaréts ager arwain at smygu sigaréts go iawn.

O blith pobol ifanc rhwng 14 ac 15, roedd fêpwyr bron bedair gwaith yn fwy tebygol o symud ymlaen i smygu tybaco.

Roedd yr ymchwil wedi ei gynnal ar bron 3,000 o bobol ifanc 14-15 oed mewn 20 ysgol yn Lloegr.

Yr ymchwil

Roedd yr ymchwilwyr wedi holi plant nad oedden nhw erioed wedi smygu o’r blaen.

  • O’r rhai oedd wedi rhoi cynnig ar sigarét ager – e-sigarennau – fe aeth 34% yn eu blaen i smygu baco.
  • O’r rhai oedd tan hynny heb smygu dim, dim ond 9% a drodd at faco.

Er nad yw’r ymchwilwyr yn honni bod un yn achosi’r llall, maen nhw’n dweud bod cysylltiad rhwng y ddau fath o smygu.

Mae’r ymchwilwyr o brifysgolion Leeds a Manceinion yn dweud bod angen rhagor o waith i ddeall  beth sy’n digwydd.