Cyngerdd deyrnged i’r rhai a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad brawychol ar Fai 22 fydd y digwyddiad cyntaf yn Arena Manceinion ar ôl iddi agor ei drysau i’r cyhoedd unwaith eto.

Cafodd 22 o bobol eu lladd pan ffrwydrodd Salman Abedi fom yng nghyntedd yr adeilad tua diwedd cyngerdd gan yr Americanes, Ariana Grande.

Fe fu’r ganolfan ynghau ers hynny, ac mae disgwyl iddi agor unwaith eto ar Fedi 9, gyda chyngerdd ‘We Are Manchester’ yn serennu’r band High Flying Birds (band Noel Gallagher, Oasis gynt), The Courteeners, Blossoms a Rick Astley.

Bydd y bardd Tony Walsh – sy’n cael ei adnabod wrth yr enw Longfella – hefyd yn perfformio yno, a bydd set gan y DJ Clint Boon.

Bydd yr holl elw’n mynd at gronfa goffa i’r rhai fu farw, a’r bwriad yw creu cofeb yn ninas Manceinion iddyn nhw.

Dywedodd rheolwr cyffredinol y ganolfan, James Allen fod “rhaid i’w gwaddol barhau”.

Fe fydd mesurau diogelwch cadarn yn eu lle ar gyfer yr ail-agoriad, a thocynnau’n mynd ar werth am 9 o’r gloch fore Iau am £25-30.