Mae dyn wedi ymddangos gerbon llys yng nghanolbarth Lloegr, wedi iddo barcio ei gerbyd y tu allan i swyddfa heddlu, a chorff marw yn y sedd flaen.

Fe gafodd Sukhwinder Singh ei ddwyn i’r ddalfa wedi i gorff Harish Kumar gael ei ganfod yn sedd y teithiwr mewn car BMW ddydd Iau yr wythnos ddiwethaf.

Roedd y cerbyd wedi’i barcio y tu allan i swyddfa heddlu West Bromwich. Mae Heddlu’r West Midlands yn dweud eu bod yn dal i aros canlyniadau prawf post mortem er mwyn cael gwybod sut y bu’r dyn farw.

Mae Sukhwinder Singh, 40, o Tividale wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Wolverhampton heddiw, ac mae Ionawr 29, 2018 wedi’i nodi fel dyddiad ar gyfer ei brawf.

Fe fydd gofyn iddo ymddangos unwaith cyn hynny, ar Hydref 9, pan fydd y llys yn gwrando ar adroddiadau agoriadol.