Mae’r cwmni awyrennau, Ryanair, yn galw ar holl feysydd awyr y Deyrnas Unedig i ganiatáu pobol i gael dwy ddiod feddwol yn unig cyn teithio.

Daw hyn yn dilyn adroddiad sy’n dangos fod y nifer o deithwyr gafodd eu harestio rhwng 2016 a 2017 am ymddygiad meddwol wedi codi 50%.

Mae Ryanair eisoes wedi gwahardd cwsmeriaid rhag yfed alcohol di-doll ar eu teithiau gan wahardd pobol sy’n hedfan o Glasgow neu Fanceinion i Alicante ac Ibiza rhag dod ag alcohol ar yr awyren.

“Mae hwn yn fater y dylai’r holl feysydd awyr fynd i’r afael ag ef, ac rydyn ni’n galw am newidiadau sylweddol i wahardd gwerthiant alcohol mewn meysydd awyr, yn enwedig gyda theithiau cynnar neu pan maen nhw wedi’u gohirio,” meddai Kenny Jacobs ar ran Ryanair.

Cynnydd mewn arestiadau

Datgelodd rhaglen y BBC, Panorama, fod 18 allan o 20 llu heddlu lle mae maes awyr mawr yn eu dalgylch wedi gweld cynnydd yn y nifer o arestiadau o ganlyniad i alcohol.

Yn ôl y ffigurau cafodd 387 o arestiadau eu gwneud yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2017, sy’n cymharu â 255 yn 2015 – 2016.