Usain Bolt yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 (Llun: Alun Rhys Chivers)
Methu’n llwyr a wnaeth Usain Bolt yn ei ras olaf yn Llundain neithiwr.

Aeth yn gloff yn y ras gyfnewid 4x100m i ddynion, gan ddod â’i yrfa ddisglair i ben ar nodyn siomedig.

Mae’r rhedwr 30 oed o Jamaica yn ymddeol gyda 19 o deitlau byd-eang, gan gynnwys wyth medal aur mewn Gemau Olympaidd.

Mae athletwyr a chwaraewyr ledled y byd wedi talu teyrngedau i’r rhedwr hynod.

“Mae Bolt yn gymeriad gwefreiddiol sydd wedi gosod safon ar hyd y blynyddoedd,” meddai Justin Gatlin a gurodd Usain Bolt yn y ras 100m ym mhencampwriaethau Athletau Llundain 2017.

“Mae wedi fy ysbrydoli i fod yn gystadleuydd cryfach a chyflymach a’m hunig ddymuniad bob blwyddyn oedd dod yn ail iddo.”

Meddai David Beckham mewn teyrnged iddo ar Instagram:

“Ers cymaint o flynyddoedd rydym wedi gwylio mewn edmygedd a gwerthfawrogiad yr hyn mae’r dyn yma wedi’i gyflawni a’r hapusrwydd y mae wedi ei roi i filiynau o blant ac oedolion sydd wedi cael y pleser o wylio ei gampau.

“Mae’n drist gweld y cyfan yn dod i ben ond y cwbl sydd arnaf eisiau ei ddweud yw Diolch Usain Bolt.”