Mae protestwyr yn erbyn hela a lladd anifeiliaid am hwyl yn gorymdeithio yn Llundain heddiw ar ddiwrnod cynta’r tymor hela ceiliogod y mynydd.

Mae’r protestwyr yn gorymdeithio i Stryd Downing i alw am derfyn ar ladd moch daear a chadw’r gwaharddiad ar hela llwynogod â chŵn.

Yn ymuno â’r protestwyr mae’r cyflwynydd teledu Chris Packham.