Fe fydd yr Alban yn wlad annibynnol o fewn pedair blynedd, yn ôl y cyn-Brif Weinidog, Alex Salmond.

Fe ddywedodd y byddai’n “chwarae pa bynnag ran sydd ei angen” er mwyn gwireddu’r freuddwyd o gael ail refferendwm annibyniaeth llwyddiannus.

Dywedodd mai Brexit fyddai’r prif ffactor wrth benderfynu pryd fydd yr ail refferendwm yn cael ei gynnal.

Fe ddaeth ei sylwadau ar drothwy Gŵyl Caeredin, lle mae’r holl docynnau am nifer o’i sioeau wedi cael eu gwerthu.

Bydd ei sioe gyntaf yn dechrau ddydd Sul.

Dywedodd: “Dw i’n credu y bydd yr Alban yn annibynnol, ac roedd hynny’n anochel pan gafodd Senedd yr Alban ei sefydlu.

“Yr amseru yw’r peth diddorol ers y dechrau a dw i’n credu y bydd amseru a chanlyniad Brexit yn pennu amser refferendwm arall ac felly, amseru annibyniaeth, yn y tymor canolig.

“Os yw Brexit yn llwyddiant ysgubol… yna dw i’n credu y bydd hynny’n gohirio refferendwm arall ond dw i ddim yn nabod unrhyw un sy’n credu hynny ar hyn o bryd.”

Dychwelyd?

Dydy Alex Salmond ddim wedi wfftio’r awgrym y gallai ddychwelyd i Senedd yr Alban yn y dyfodol.

“Dydy’r amseru ddim yn fy nwylo i,” meddai. “Doedd Theresa May ddim yn gwybod pryd fyddai’r etholiad diwethaf tan ei bod hi i fyny mynydd yng Nghymru ac mae hi fwy na thebyg yn difaru ei ddringo.”

Caeredin

Wrth edrych ymlaen at ei sioe yng Nghaeredin, dywedodd: “Mae pethau na allwch chi eu dweud mewn swydd y gallwch chi eu dweud pan nad ydych chi mewn swydd.

“Ac mae pethau y gallwch chi eu gwneud y tu allan i swydd na allwch chi eu gwneud mewn swydd, nid yn unig fel Prif Weinidog, ond fel Aelod Seneddol, allwch chi jyst ddim mynd i Ŵyl Caeredin am gwpwl o wythnosau. Dydy hynny ddim yn deg ar eich etholwyr ond diolch byth fod fy etholwyr wedi fy rhyddhau o’r cyfrifoldeb hwnnw, a nawr dw i’n gallu ei wneud e.”