Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o wthio rhedwraig i lwybr bws yn Llundain wedi cael ei ryddhau’n ddi-gyhuddiad.

Cafodd y dyn 41 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn y digwyddiad ar bont Putney ar Fai 5.

Ond dydy’r heddlu ddim yn ei amau o unrhyw drosedd erbyn hyn.

Roedd lluniau o gamera cylch-cyfyng yn dangos y ddynes 33 oed yn cael ei gwthio i lwybr y bws, a chafodd hi fan anafiadau.

Ryw chwarter awr yn ddiweddarach, pasiodd y ddau ei gilydd eto, ac fe anwybyddodd y dyn y ddynes wrth iddi geisio siarad â fe.

Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am ddyn gwyn yn ei 30au, a chanddo fe lygaid brown a gwallt byr brown.

Roedd e’n gwisgo crys T llwyd a throwsus byrion glas tywyll.