Mae ymgeisydd gwrth-Islamaidd yn y ras i fod yn arweinydd nesaf plaid Ukip.

Mae ymgeisyddiaeth Anne Marie Waters, sylfaenydd Sharia Watch, wedi cael ei derbyn, ac mae hi ymhlith 11 o bobol sydd eisiau olynu Paul Nuttall.

Yn y gorffennol, mae hi wedi dweud bod y ffydd Islamaidd yn “anfad”.

Mae ei hymgeisyddiaeth wedi hollti barn aelodau’r blaid, gyda rhai ohonyn nhw’n bygwth gadael pe bai hi’n cael ei hethol.

Mae’r cyn-arweinydd, Nigel Farage wedi rhybuddio y byddai hi “ar ben” ar y blaid pe bai hynny’n digwydd.

Ymddiswyddodd Paul Nuttall yn sgil canlyniadau siomedig y blaid yn yr etholiad cyffredinol fis Mehefin.

Bydd aelodau’n derbyn papurau pleidleisio ar Fedi 1, a bydd enw’r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 29.

Yr ymgeiswyr:

David Allen

Henry Bolton

David Coburn

Jane Collins

David Kurten

Marion Mason

Aidan Powlesland

John Rees-Evans

Ben Walker

Anne Marie Waters

Peter Whittle