Llun parth cyhoeddus
Mae pedwar o gadwyni archfarchnadoedd yng Nghymru  a gweddill gwledydd Prydain wedi tynnu bwydydd oddi ar y silffoedd oherwydd wyau sydd wedi eu llygru.

Bellach fe ddaeth yn amlwg fod 700,000 o wyau llwgr o’r Iseldiroedd wedi dod i wledydd Prydain ac mae cwmnïau Sainsburys, Morrisons, Asda a Waitrose i gyd wedi rhoi’r gorau i werthu rhai bwydydd.

Er fod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dweud ei bod “yn annhebygol iawn” fod bygythiad i iechyd pobol, maen nhw’n cadarnhau bod y bwydydd wedi eu hatal “er mwyn gwarchod y cyhoedd”.

Mae’r cyfan yn fwydydd wedi prosesu, gan gynnwys gwahanol fathau o salad a’r stwff llenwi mewn brechdanau.

Arestio dau

Fe ddaeth yn glir bod dau ddyn wedi cael eu harestio yn yr Iseldiroedd lle cafodd yr wyau eu dodwy – maen nhw wedi eu heintio gan gemegyn o’r enw Fipronil.

Dyw hwnnw ddim i fod i gael ei ddefnyddio’n agos at anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd.

Mae’n debyg nad oes dim tystiolaeth fod y cemegyn wedi effeithio ar wyau sydd wedi eu dodwy yng ngwledydd Prydain.