Mae dau o bobol wedi’u cyhuddo o lofruddio bachgen yn ei arddegau yn nwyrain Llundain.

Fe ddaethpwyd o hyd i Joshua Bwalya yn gorwedd yn y stryd yn Barking tua 1yb ddydd Mercher.

Roedd wedi’i drywanu ac wedi marw yn y fan a’r lle, tra bod bachgen arall 16 oed ynghyd â dyn 20 oed wedi’u trywanu hefyd gerllaw.

Mae Kareem Lashley-Weekes, 19, o Stratford, ac Ayrton Ambrose, 19, o Peckham, wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth.

Maen nhw hefyd wedi’u cyhuddo o ddau achos arall o geisio llofruddio, ac fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron llys ynadon fore Iau.