Llun: PA
Mae plismon wedi cael ei garcharu am flwyddyn ar ôl iddo ddefnyddio hofrennydd yr heddlu i ffilmio pobl yn cael rhyw.

Clywodd Llys y Goron Sheffield bod y swyddog Adrian Pogmore, 51, wedi ffilmio cwpl priod yn cael rhyw, a phump o bobl eraill oedd yn torheulo’n noeth, o hofrennydd Heddlu De Swydd Efrog.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Peter Kelson QC ei fod wedi “ystyried ei hun, yn llythrennol, uwchlaw’r gyfraith.”

Clywodd y llys bod Adrian Pogmore wedi gwasanaethu gyda’r heddlu ers 22 mlynedd nes iddo gael ei ddiswyddo, a bod ganddo “obsesiwn gyda rhyw.”

Roedd Adrian Pogmore, o Whiston yn Rotherham, wedi cyfaddef pedwar cyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus mewn cysylltiad â phedwar digwyddiad rhwng 2007 a 2012.

Roedd dau blismon arall a dau beilot hofrennydd wedi’u cael yn ddieuog o’r un drosedd ar ôl dweud wrth reithgor nad oedd ganddyn nhw syniad beth oedd Adrian Pogmore yn ei wneud gyda’r camera ar fwrdd yr hofrennydd.