Wyau
Cafodd “nifer fechan iawn” o wyau o Ewrop, a allai fod wedi’u llygru gyda phlaladdwr, eu dosbarthu  yng ngwledydd Prydain.

Ond yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) mae’r bygythiad i iechyd cyhoeddus yn “isel iawn”. Serch hynny, maen nhw’n cynnal ymchwiliad “brys” i geisio darganfod lle cafodd yr wyau eu gwerthu.

Mae’n debyg bod 21,000 o wyau o ffermydd yn yr Iseldiroedd wedi cael eu dosbarthu yng ngwledydd Prydain rhwng mis Mawrth a Mehefin, meddai’r FSA.

Mae siopau Aldi a Lidl yn yr Almaen wedi tynnu miliynau o wyau o’u silffoedd yn sgil pryderon eu bod wedi’u llygru gydag olion o’r plaladdwr Fipronil.

Dywedodd cwmni archfarchnad Aldi eu bod wedi gwneud hynny “fel rhagofal” a bod yr wyau sy’n cael eu gwerthu yn eu siopau yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu cynhyrchu ym Mhrydain.

Fe ddechreuodd y pryderon yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg a chredir mai diheintydd o’r Iseldiroedd sydd ar fai.

Mae profion yn cael eu cynnal ar ddwsinau o ffermydd yn yr Iseldiroedd tra bod asiantaeth diogelwch bwyd Gwlad Belg yn ymchwilio i geisio darganfod sut yr oedd Fipronil wedi llygru wyau oedd i’w gwerthu mewn archfarchnadoedd.