Mae dyn wedi marw ar ôl i’w gwch suddo yn Brighton.

Mae pryderon am ddau ddyn arall sydd ar goll ar ôl y digwyddiad yn gynnar y bore ma.

Cafodd pedwerydd dyn ei ddarganfod mewn trafferthion gan gwch pysgota ddwy filltir i ffwrdd o harbwr y dref, ac mae lle i gredu mai dyn 45 oed o Rwmania yw e.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty am driniaeth.

Mae’r chwilio am y dynion sydd ar goll wedi dod i ben am y tro, ac mae ymchwiliad ar y gweill, yn ôl y Gangen sy’n Ymchwilio i Ddamweiniau Morwrol.

Mae lle i gredu bod dau gwch wedi bod mewn gwrthdrawiad, ond does dim cadarnhad eto.

Cafwyd hyd i gorff dyn am oddeutu 8.15 y bore yma.