Nicola Sturgeon (Llun: Andrew Cowan/PA Wire)
Mae cyn Aelod Seneddol yr SNP wedi galw am ymddiheuriad gan arweinydd y blaid a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon am y ffordd y cafodd hi ei thrin yn ystod ymchwiliad yr heddlu i honiadau o dwyll.

Mae’r ymchwiliad yn erbyn Michelle Thomson wedi dod i ben heb iddi gael ei chyhuddo, ond mae hi wedi mynegi ei siom ynghylch y ffordd y gwnaeth Nicola Sturgeon ymdrin â’r sefyllfa.

Dywedodd yr awdurdodau’r wythnos ddiwethaf nad oedd digon o dystiolaeth i ddwyn achos.

Roedd Michelle Thomson – a gafodd ei hethol yn etholaeth Gorllewin Caeredin yn 2015 – yn un o bump o bobol a gafodd eu henwi mewn adroddiad a gafodd ei anfon at erlynwyr fis Rhagfyr y llynedd.

Mae hi’n dweud ei bod hi wedi cael ei gorfodi i roi’r gorau i fod yn Chwip y blaid ar ddechrau’r ymchwiliad.

Dywedodd hi wrth BBC yr Alban na chafodd hi “unrhyw gefnogaeth” gan y blaid.

“Fe wnes i brotestio ond ces i fy arwain i gredu pe na bawn i’n gwneud pethau mewn modd urddasol y byddai pethau’n waeth fyth ac a bod yn onest, roedden nhw’n ddigon drwg bryd hynny.

“Nid fy newis na’m penderfyniad i oedd hynny.”

Beirniadu’r pwyllgor gwaith

Tra bod aelodau’r blaid yn San Steffan wedi bod “mor gefnogol”, ychwanegodd Michelle Thomson ei bod hi’n ei chael yn “anodd deall” pam fod y pwyllgor gwaith wedi penderfynu na fyddai hi’n cael dychwelyd i’w swydd.

“Am wn i, yr hyn roeddwn i wedi’i gael yn frawychus oedd na ches i’r un cyfle i siarad yn uniongyrchol â Nicola Sturgeon a chyflwyno rhai o’r pwyntiau allweddol.

“Mewn geiriau eraill, ches i ddim cyfle i gyflwyno fy ochr i a dw i’n credu bod hynny’n siomedig, a bod yn onest.”

Dywedodd y byddai’n hoffi cael ymddiheuriad gan Nicola Sturgeon neu aelod blaenllaw arall o’r blaid.

Mynegodd hi bryder hefyd fod Nicola Sturgeon yn briod â phrif weithredwr yr SNP, Peter Murrell, gan ddweud bod hynny’n “broblem”.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran yr SNP fod y blaid yn “dymuno’n dda” i Michelle Thomson.