Neuadd Felbrigg yn Swydd Norfolk (Llun: Chris Radburn/PA Wire)
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gwyrdroi gwaharddiad ar staff sy’n gwrthod gwisgo bathodyn cydraddoldeb rhywiol yn y gweithle.

Roedd staff yn Neuadd Felbrigg yn Swydd Norfolk oedd yn gwrthod ei wisgo wedi cael cynnig swyddi eraill i ffwrdd o’r cyhoedd.

Roedd rhai staff wedi dweud eu bod nhw’n teimlo’n “anghyfforddus” gyda bathodyn amryliw ar gyfer digwyddiad ‘Prejudice and Pride’ yn nodi hanner can mlynedd ers datgriminaleiddio gwrywgydiaeth.

Roedd fideo gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ddiweddar wedi datgelu bod Robert Wyndham Ketton-Cremer, perchennog olaf y plasty, oedd wedi ei roi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn hoyw.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol heddiw fod gwisgo’r bathodyn yn “ddewisol ac yn benderfyniad personol” i staff erbyn hyn.

Ond ychwanegodd y llefarydd eu bod nhw wedi ymrwymo i raglen Pride.

Amddiffyn y gwaharddiad gwreiddiol

Serch hynny, mae cyfarwyddwr cyffredinol yr Ymddiredolaeth Genedlaethol, y Fonesig Helen Ghosh wedi amddiffyn y gwaharddiad gwreiddiol.

Dywedodd fod y fideo am fywyd Robert Wyndham Ketton-Cremer yn “sensitif, parchus a gogoneddus”, gan ychwanegu bod “croeso i bawb” ym mhlastai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.