Leo Varadkar, Taoiseach Iwerddon (Llun: PA)
Mae priodasau o’r un rhyw “yn mynd i ddigwydd” yng Ngogledd Iwerddon, yn ôl y Taoiseach – neu’r Prif Weinidog – Leo Varadkar.

Fe wnaeth ei sylwadau wrth ymweld â digwyddiad Pride yn Belfast y bore ma.

Leo Varadkar yw’r dyn hoyw cyntaf i arwain y wlad, ac fe ddywedodd ei fod yn mynd i’r digwyddiad er mwyn dangos ei gefnogaeth i hawliau a rhyddid unigolion.

Gogledd Iwerddon yw’r unig un o wledydd Prydain lle mae priodasau o’r un rhyw yn dal yn anghyfreithlon – pleidleisiodd Gweriniaeth Iwerddon o’u plaid yn 2015.

‘Penderfyniad i’r Cynulliad’

Dywedodd Leo Varadkar mai “penderfyniad i’r Cynulliad” fyddai derbyn priodasau o’r un rhyw ai peidio, ond ei fod yn “hyderus y byddan nhw, fel gwledydd eraill yng ngorllewin Ewrop, yn gwneud y penderfyniad hwnnw maes o law”.

Mae aelodau’r heddlu a’r Garda wedi bod yn y digwyddiad y bore ma ac am y tro cyntaf erioed, fe fu swyddogion yr heddlu’n gorymdeithio drwy ganol y ddinas yn y parêd blynyddol.

Heddlu

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Iwerddon eu bod nhw’n gobeithio y bydd eu rhan yn y digwyddiad yn annog mwy o bobol i fynd atyn nhw i adrodd am droseddau yn erbyn y gymuned LGBT.

Roedd disgwyl i hyd at 8,000 o bobol gymryd rhan yn yr orymdaith drwy ganol dinas Belfast.

Mae priodasau o’r un rhyw yn un o’r materion sy’n atal cytundeb wrth i bleidiau Stormont geisio cytuno ar lywodraeth i’r wlad.

Mae Sinn Fein yn ceisio annog y DUP i roi’r gorau i atal y gyfraith rhag cael ei newid er mwyn galluogi cyplau o’r un rhyw i briodi.

Ond mae’r DUP yn mynnu nad yw’n blaid homoffobig.