Bydd safle cwmni peirianyddol Delphi Diesel Systems yn cau yn Suffolk a 500 o swyddi yn diflannu.

Ers cael clywed am y colli swyddi yn Sudbury mae undeb Unite wedi galw ar Lywodraeth Prydain i ddwysau ei strategaeth ddiwydiannol.

Bydd y safle yn cau yn 2020 er ei fod yn “gwneud elw uchel” yn ôl yr undeb.

Mae Unite ar ddeall bod y perchnogion o America yn bwriadu symud y swyddi i Rwmania lle mae gweithwyr yn cael llai o arian am eu llafur.