Mae dros 100 o adeiladau wedi ffaelu’r rownd ddiweddaraf o brofion tân yn sgil trychineb Tŵr Grenfell, yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Awdurdodau lleol a chymdeithasau tai oedd yn berchen ar 90 o’r 111 o adeiladau wnaeth fethu’r profion.

Roedd pob un o’r adeiladau eisoes wedi methu rownd gyntaf o brofion. Nod y profion diweddaraf oedd profi paneli cladin oedd yn cynnwys polyethylen a ‘stone wool’.

Mae arbenigwyr yn amau mai paneli fflamadwy wnaeth achosi i’r tân yn Nhŵr Grenfell i ledaenu mor gyflym.

Mae lle i gredu bod o leiaf 80 o bobol wedi marw yn sgil y trychineb a ledodd drwy’r bloc o fflatiau ar Fehefin 14.