'Babi P'
Fydd llysdad ‘Babi P’ ddim yn cael ei ryddhau am o leiaf ddwy flynedd arall.

Cafodd Steven Barker ei garcharu am 12 mlynedd yn 2007 am ei ran ym marwolaeth y babi 17 mis oed, Peter Connelly yng ngogledd Llundain.

Roedd y babi wedi cael mwy na hanner cant o anafiadau dros gyfnod o wyth mis, ac fe fu farw ddeng mlynedd yn ôl i fory.

Cafwyd Steven Barker a’i frawd, Jason Owen yn euog o achosi marwolaeth neu alluogi marwolaeth y babi.

Cafodd mam y babi, Tracey Connelly ei charcharu am chwe mlynedd am yr un drosedd, ond cafodd ei dedfryd hi ei hymestyn ar ôl iddi werthu lluniau anweddus ohoni ei hun i bobol oedd ag obsesiwn am yr achos.

Cafwyd Steven Barker yn euog yn ddiweddarach o dreisio merch dwy oed, ac fe gafodd e ddedfryd ychwanegol o ddeng mlynedd dan glo.

Cafodd Jason Owen ei ryddhau yn 2015.

Yn dilyn y dyfarniad heddiw, fydd Steven Barker ddim yn gallu gwneud cais arall am barôl am ddwy flynedd arall.

Cafodd pump o weithwyr Cyngor Haringey eu diswyddo ar ôl i fethiannau yng ngofal ‘Babi P’ gael eu darganfod – gan fod gweithwyr wedi methu â sylweddoli bod y babi’n cael ei gamdrin, er eu bod nhw wedi ymweld â’r teulu dros 60 o weithiau.