Mae Nwy Prydain wedi cyhoeddi y bydd yn cynyddu prisiau trydan o 12.5% ym mis Medi a fydd yn effeithio 3.1 miliwn o gwsmeriaid.

Cyhoeddodd y cwmni ynni y bydd y prisiau’n codi o 15 Medi ar ôl i’r cwmni wneud camgymeriad ddydd Llun gan gyhoeddi datganiad anghyflawn ar ei wefan oedd yn son am gynyddu biliau trydan.

Dywed Nwy Prydain, sy’n berchen i gwmni Centrica, mai dyma’r cynnydd cyntaf mewn prisiau ers mis Tachwedd 2013 ac y bydd yn helpu i ddiogelu 200,000 o gwsmeriaid bregus.

Fe fydd pris nwy yn aros yr un fath.