Jeremy Hunt
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, wedi gwadu honiadau bod Cabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhanedig dros Brexit.

Mae tensiynau wedi cynyddu ymysg y Ceidwadwyr wedi i’r Canghellor, Philip Hammond, a’r Ysgrifennydd Gwladol, Amber Rudd,  ymrwymo i gyfnod o drawsnewidiad graddol yn sgil Brexit.

Er hynny mae’r Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Liam Fox, wedi mynegi ei fod yn gwrthwynebu symudiad rhydd o lafur yn dilyn Brexit ac wedi mynnu nad yw’r Cabinet â safiad ar fewnfudo.

Wrth siarad ar raglen BBC Today dywedodd Jeremy Hunt nad oedd yn “cydnabod y disgrifiad” bod y Cabinet yn rhanedig.

Dywedodd hefyd fod undod dros sawl mater gan gynnwys cyfreithiau Prydain, ffiniau, arian a “sicrhau y bydd Brexit yn gwneud Prydain yn fwy cysylltiedig â gweddill y byd, nid llai.”

Cabinet mewn “gwrthryfel”

Mae  Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Vince Cable, wedi dweud bod y Cabinet mewn cyfnod o “wrthryfel.”

Daeth y sylw fel ymateb i honiadau y gallai’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, ymddiswyddo os fydd cynllun tair blynedd ar gyfer mewnfudwyr yn cael ei weithredu yn dilyn Brexit.

“Mae Vince Cable yn siarad trwy ei het ac efallai dylai dreulio mwy o amser yn llunio polisïau yn lle dyfeisio celwyddau,” meddai llefarydd ar ran Boris Johnson.