Bydd adolygiad annibynnol o reoliadau adeiladu a diogelwch tân yn cael ei gynnal mewn ymateb i bryderon am ddiogelwch adeiladau uchel yn sgil tân Grenfell yn Llundain.

Wrth gyhoeddi’r adroddiad ddoe, dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau, Sajid Javid, fod y tân wedi “codi cwestiynau difrifol” am ddiogelwch tân ac am y defnydd o cladin ymfflamychol mewn adeiladau.

“Mae’n amlwg fod angen inni edrych ar frys ar reoliadau adeiladu a diogelwch tân,” meddai.

“Bydd yr adolygiad hanesyddol hwn yn sicrhau y gallwn wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol ar fyrder. Mae’r Llywodraeth yn benderfynol i sichrau ein bod ni’n dysgu’r gwersi o dân Tŵr Grenfell, a sicrhau na fydd dim byd yr un fath yn gallu digwydd eto.”

Fe fydd yr adolygiad o dan arweiniad y Fonesig Judith Hackitt, a’i nod yw cyhoeddi adroddiad terfynol yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.