Mae dyn wedi gwadu ei fod wedi cymryd arno iddo golli ei deulu yn y tân yn fflatiau Twr Grenfell.

Mae Anh Nhu Nguyen wedi’i gyhuddo o ddweud celwydd er mwyn hawlio £10,000 o iawndal o gronfa gafodd ei sefydlu i helpu dioddefwyr.

Heddiw, pan ymddangosodd gerbron Llys y Goron Southwark, fe blediodd yn ddieuog i ddau gyhuddiad o dwyll.

Mae Anh Nhu Nguyen, 52, o Beckenham, de-ddwyrain Llundain, wedi’i gyhuddo o dwyllo elusennau Cyngor Kensington a Chelsea, trwy honni ei fod yn byw yn Nhwr Grenfell, a bod ei wraig a’i fab wedi marw yn y tân ar Fehefin 14.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl i’r achos yn ei erbyn agor yn Llys y Goron Southwark ar Ragfyr 4.