Mae ymgyrchwyr wedi galw am erlyn unigolion dros dân Tŵr Grenfell ar ôl i Scotland Yard ddweud bod lle i gredu y gallai’r achos fod yn ddynladdiad corfforaethol.

Bydd uwch swyddogion ar Gyngor Kensington a Chelsea a Sefydliad Rheoli Tenantiaid yr un fwrdeistref yn wynebu cyfweliadau ffurfiol gyda’r heddlu.

Mewn llythyr at drigolion a gafodd eu heffeithio gan y tân, dywed yr heddlu fod lle i gredu y gallai’r ddau sefydliad wynebu achosion o ddynladdiad corfforaethol.

Dywed y grŵp ymgyrchu Justice 4 Grenfell, ei fod yn gobeithio y byddai’r datganiad yn arwain at arestio unigolion.

“Byddai unrhyw achos o arestio yn cael ei weld gan bawb sydd wedi’u heffeithio fel tystiolaeth wirioneddol eu bod yn aelodau gwerthfawr o gymdeithas a bod pobol yn gwrando arnyn nhw,” meddai’r grŵp.

Does gan yr heddlu ddim pŵer i arestio unigolion dan y drosedd o ddynladdiad corfforaethol, ond gall rywun wynebu cyhuddiadau o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol os oedd y farwolaeth wedi’u hachosi ganddyn nhw.

Y gosb fwyaf – dirwy

Dywed yr Aelod Seneddol dros Tottenham, David Lammy, ei fod yn falch bod cyfiawnder yn “cael ei gymryd o ddifrif” ond dywedodd hefyd mai’r ddedfryd fwyaf ar gyfer dynladdiad corfforaethol yw dirwy.

“Fyddai dirwy ddim yn rhoi cyfiawnder i ddioddefwyr Grenfell na’u teuluoedd,” meddai.

Cafodd o leia’ 80 o bobol eu lladd pan aeth y bloc o fflatiau 24 llawr yn wenfflam ar Fehefin 14.

Fe wnaeth arweinydd Cyngor Kensington a Chelsea, Nicholas Paget-Brown a’i ddirprwy, Rock Feilding-Mellen ymddiswyddo yn dilyn y trychineb.

Ac fe wnaeth prif weithredwr Sefydliad Rheoli Tenantiaid Kensington a Chelsea, Robert Black, yr un peth.