Mae cwmni offer adeiladu, JCB, wedi taro un o’i fargeinion gorau eraill yng ngwledydd Prydain, gydag archeb am fwy na 1,200 o beiriannau gwerth mwy na £55m.

Mae’r cytundeb gyda cmwni llogi offer A-Plant, ac mae’n hwb i ffatrïoedd y cwmni yn Rocester, Uttoxeter, Cheadle a Hixon yn Swydd Stafford.

“Mae cwmni A-Plant wedi bod yn prynu offer JCB ers mwy na chwarter canrif, ac rydan ni wrth ein boddau eu bod nhw’n buddsoddi mwy yn ein hoffer ni,” meddai datganiad gan JCB.

Mae’r archeb am fwy na 600 o beiriannau telesgopig, a 450 o beiriannau codi baw.