Prif Gwnstabl Phil Gormley
Mae Prif Gwnstabl Heddlu’r Alban yn destun ymchwiliad i gyhuddiadau o gamweithredu difrifol.

Mae’r Comisiwn Ymchwilio ac Adolygu’r Heddlu (PIRC) wedi cyhoeddi y bydd yn ymchwilio i gyhuddiad a gafodd ei wneud ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 26) yn erbyn “prif swyddog”

Dydyn nhw ddim wedi dweud beth yw natur y cyhuddiad, ond maen nhw wedi cadarnhau ei fod yn “torri safonau ymddygiad yn ddifrifol”. Pe bai’r Prif Gwnstabl Phil Gormley yn cael ei ganfod yn euog, fe allai golli’i swydd.

“Gallaf gadarnhau fod PIRC wedi gadael i mi wybod am y cyhuddiad, a fy mod yn destun ymchwiliad,” meddai Phil Gormley.

“Rydw i’n cydweithredu’n llawn gyda PIRC, ac fe fydda’ i’n cydweithredu ym mhob ffordd er mwyn dod â’r mater hwn i fwcwl.

“Hoffwn bwysleisio fy mod, yn y cyfamser, yn canolbwyntio ar arwain Heddlu’r Alban, a gwneud yn siwr ein bod yn gwasanaethu ac yn diogelu pobol y wlad hon.”