Mae Grŵp Bancio Lloyds wedi gwneud colledion o bron i £1bn ar ôl dweud y bydd yn ad-dalu cwsmeriaid am fethiannau yn ei bolisïau yn delio â dyledion morgeisi.

Daw’r colledion hefyd ar ôl i’r banc roi arian ychwanegol o’r neilltu i ddelio â cham-werthu yswiriant diogelu taliadau [PPI].

Mae’r benthyciwr wedi amcangyfrif y bydd yn gorfod rhoi £283m i ad-dalu tua 590,000 o gwsmeriaid morgeisi.

Ac mae wedi rhoi £700m o’r neilltu i ddelio â cheisiadau PPI.

Mae’r newyddion yn dod misoedd ar ôl i Lloyds dalu £350 yn ychwanegol i fynd i’r afael â’r sgandal o gam-werthu PPI i bobol, sydd bellach wedi cyrraedd £18bn.