Mae Scotland Yard wedi cadarnhau fod merch yn ei harddegau wedi’i chyhuddo o droseddau brawychol.

Yn ol llefarydd ar ran Heddlu’r Met yn Llundain, roedd y ferch 17 oed wedi cysylltu, yn honedig, gydag un o ymladdwyr ISIS yn Syria.

Eto, yn ol datganiad Scotland Yard, roedd y ferch yn y broses o drefnu i gael gafael ar arfau er mwyn cynnal ymosodiad brawychol yng ngwledydd Prydain.