Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi y bydd ceir petrol a diesel yn cael eu gwahardd o 2040 ymlaen, mewn ymgais i leihau llygredd awyr.

Heddiw, mae disgwyl cyhoeddiad am sefydlu cronfa gwerth £255m er mwyn helpu cynghorau lleol i gyflymu’r broses o fynd i’r afael â’r llygredd sy’n cael ei achosi gan geir. Bydd yr arian yn rhan o gynllun gwerth £3bn i wella ansawdd aer.

Fe allai’r cynlluniau fod yn rhan o strategaeth awyr iach y Llywodraeth, a fydd yn cael ei chyhoeddi heddiw, ddyddiau’n unig cyn y dyddiad cau sydd wedi cael ei osod gan yr Uchel Lys.

Roedden nhw wedi cael gorchymyn i fynd i’r afael â lefelau nitrogen diocsid, oedd yn mynd yn groes i reolau Ewropeaidd.

Roedd Llywodraeth Prydain wedi gobeithio gohirio’r cynlluniau tan ar ôl yr etholiad cyffredinol, ond fe fu’n rhaid iddyn nhw baratoi ar gyfer y dyddiad cau ar Orffennaf 31. Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am gyflwyno parthau awyr iach a diddymu cerbydau diesel fel rhan o’r cynlluniau.

Pe bai’r gwaharddiad yn digwydd, fe fyddai Llywodraeth Prydain yn dilyn esiampl Ffrainc, sydd eisoes wedi cyhoeddi gwaharddiad ar gerbydau petrol a diesel, gyda chynnydd mewn cerbydau trydan.

Ddoe, fe gyhoeddodd BMW gynlluniau i greu Mini trydan yn Rhydychen, ac mae Volvo eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau tebyg.