Yr Uchel Lys yn Llundain
Mae barnwr yn yr Uchel Lys, a fu’n goruchwylio’r frwydr gyfreithiol ynglŷn â chael triniaeth arbrofol i Charlie Gard, wedi dweud ei fod yn gobeithio y gall gwersi gael eu dysgu o’r achos “trasig” hwn.

Mae hefyd wedi awgrymu y dylai rhieni a rheolwyr ysbytai sy’n anghytuno dros driniaethau mewn achosion fel hyn, gael eu gorfodi i gymodi er mwyn osgoi achosion cyfreithiol.

Fe wnaeth Mr Ustus Francis ddweud fod pob achos teuluol yn y llys yn atebol i glyweliadau sy’n cael eu cynnal i geisio datrys unrhyw anghydfod.

Roedd yn “credu’n gryf” y dylai cymod gael ei geisio mewn achosion tebyg i un Charlie Gard. Mae wedi canmol dewrder ei rieni,  Chris Gard a Connie Yates.

Fe wnaeth rhieni Charlie Gard ddatgan ddoe eu bod yn dod a’u brwydr gyfreithiol i ben yn dilyn tystiolaeth newydd a oedd yn dangos ei bod yn rhy hwyr i roi triniaeth i’w babi 11 mis oed.

Mae’n dioddef o gyflwr genetig prin sy’n effeithio ar ei ymennydd ac roedd ei rieni eisiau iddo gael triniaeth arbrofol yn America. Ond roedd meddygon Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain yn dadlau na fyddai’r driniaeth yn gwneud gwahaniaeth i’w gyflwr ac y dylai gael y cyfle i farw gydag urddas.