Rhieni Charlie Gard (Llun trwy PA)
Mae rhieni Charlie Gard wedi dychwelyd i’r llys heddiw ar gyfer gwrandawiad a allai benderfynu tynged y babi 11 mis oed sy’n derfynol wael.

Mae disgwyl i Mr Ustus Francis ystyried y camau diweddaraf ym mrwydr rhieni Charlie Gard – Chris Gard a Connie Yates – er mwyn caniatáu iddo gael triniaeth arbrofol yn yr Unol Daleithiau.

Fe fydd y barnwr yn ystyried yr hyn mae’r cwpl yn dadlau yw tystiolaeth newydd am y driniaeth maen nhw am i’w mab, sy’n dioddef o gyflwr genetig prin, ei derbyn.

Mae disgwyl i’r gwrandawiad para deuddydd yn yr Uchel Lys yn Llundain.