Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn dilyn achos ‘domestig’, wedi’i ryddhau yn ddi-gyhuddiad.

Mae Heddlu Greater Manchester wedi cadarnhau fod prawf post mortem ar gorff dynes 28 oed, yn awgrymu nad oedd ei marwolaeth yn un amheus wedi’r cwbwl.

Fe gafodd plismyn eu galw i gartre’r ddynes yn Wigan tua 8.20yh nos Sadwrn.

“Rydyn ni wedi rhyddhau’r dyn 35 oed yn ddi-gyhuddiad,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.