(llun: PA)
Mae’r Bank of America wedi cyhoeddi mai Dulyn fydd ei bencadlys ar gyfer ei weithgareddau yn Ewrop yn sgil Brexit.

Ar hyn o bryd, mae’n cyflogi 700 o staff yn Iwerddon o gymharu â 6,500 ym Mhrydain.

Dywed Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar, fod y penderfyniad yn newyddion da i Iwerddon.

“Mae gan y Bank of America ymrwymiad ers amser maith i Iwerddon, a dw i’n edrych ymlaen at weld y berthynas yn tyfu ac yn dyfnhau yn y blynyddoedd i ddod,” meddai.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn penderfyniadau amryw o fanciau eraill i symud eu pencadlysoedd Ewropeaidd o Lundain oherwydd yr ansicrwydd yn sgil Brexit.

Yn eu plith mae Citigroup a Standard Chartered wedi dewis Frankfurt ac eraill gan gynnwys JP Morgan am wasgaru staff rhwng gwahanol ddinasoedd yn yr Undeb Ewropeaidd.