Mae Theresa May wedi cwyno bod y BBC yn talu llai i ferched na dynion am wneud yr un gwaith.

A rhaid i’r Gorfforaeth barhau i gyhoeddi cyflogau breision eu cyflwynwyr er mwyn profi eu bod yn ceisio rhoi chwarae teg i ferched, meddai.

Chris Evans sydd ar frig y rhestr cyflogau mawr, yn cael mwy na £2 miliwn o dâl. Y ddynes ar y mwyaf o gyflog am gyflwyno yw Claudia Winkleman sydd ar rhwng £450,000 a £499,999.

“Rydw i eisiau gweld merched yn cael yr un tâl â dynion,” meddai’r Prif Weinidog.

“Yr unig reswm yr ydan ni yn gwybod am hyn yw oherwydd bod y Llywodraeth wedi gofyn i’r BBC gyhoeddi’r ffigyrau hyn.”