Philip Hammond (Llun y Blaid Geidwadol)
Mae nifer o straeon yn awgrymu y bydd pobol o Ewrop yn cael parhau i symud yn rhydd i wledydd Prydain am flynyddoedd wedi Brexit.

Yn ôl papur newydd y Guardian, fe allai’r rhyddid yna barhau am hyd at bedair blynedd, yn ôl The Times am o leia’ ddwy.

Dyw Downing Street ddim wedi cadarnhau’r adroddiadau ond maen nhw’n ffitio i agwedd newydd o gyfeiriad Llywodraeth Prydain sydd fel pe bai’n derbyn bellach y bydd angen cyfnod trosglwyddo ar ôl arwyddo cytundeb i adael.

Mae hyd yn oed ymgyrchwyr Brexit amlwg fel yr Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol Liam Fox wedi dweud yn gyhoeddus y bydd angen tua dwy flynedd i weithredu unrhyw newidiadau.

Y gred yw mai’r Canghellor Philip Hammond sydd wedi cael ei ffordd a pherswadio’r Prif Weinidog, Theresa May, i dderbyn y bydd angen parhau ‘symud rhydd’ am gyfnod.

Rhybudd adroddiad

Mae’r adroddiadau yn cyd-daro â chyhoeddiad adroddiad gan bwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi sydd yn rhybuddio gall rheoli mewnfudo wedi Brexit fod yn broblem.

Yn ôl y Pwyllgor Materion Economaidd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dibynnu ar wybodaeth “annigonol” sydd yn methu â chreu darlun cywir o lefelau mewnfudo i Brydain.

Hefyd, mae’r pwyllgor yn dadlau y bydd yn rhaid i fusnesau “dderbyn bod mewnfudo o’r Undeb Ewropeaidd yn mynd i gwympo” ac yn awgrymu y bydd yn rhaid iddyn nhw godi eu cyflogau er mwyn denu gweithwyr o Brydain.